Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

CELG(4)-25-13 – Papur 3

 

Papur gan Archwilydd Cyffredinol Cymru i ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Gydweithio mewn Llywodraeth Leol

 

1.  Ym mis Hydref 2011, roedd fy adroddiad  Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2011, yn cynnwys sylwadau ar faterion yn ymwneud â'r agenda gydweithio mewn llywodraeth leol. Efallai y byddai'n ddefnyddiol i'r Pwyllgor gyfeirio'n ôl at yr adroddiad hwnnw fel llinell sylfaen. Yng nghyd-destun yr heriau ariannol sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus Cymru, canfu'r adroddiad fod cynghorau'n ymateb i bwysau cynyddol i gydweithio ond bod pryderon ynghylch llywodraethu ac atebolrwydd ac ansicrwydd ynghylch y manteision ariannol a'r manteision o ran gwasanaethau.

Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2011

 

2.  Fel yr amlinellais yn ddiweddar i'r Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus, er bod gennyf rywfaint o bŵer dewisol i gynnal astudiaethau ym maes llywodraeth leol, mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 yn gosod dyletswyddau penodol arnaf, gan amlinellu'r hyn y gallaf edrych arno a sut a phryd y dylwn adrodd ar berfformiad llywodraeth leol. O ran y llywodraeth ganolog a'r GIG, mae gennyf ddisgresiwn i gynnal archwiliadau o ba mor ddarbodus, effeithlon ac effeithiol y caiff arian cyhoeddus ei ddefnyddio ac mae'n resyn mawr, oherwydd materion yn ymwneud â chymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, nad oedd modd i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 gynnig cyfle i sicrhau cysondeb o ran y gwaith archwilio a wnaf, ac felly wella fy ngallu i gynnal adolygiadau o gydweithio sy'n croesi ffiniau'r sectorau.

 

3.  Ar 26 Medi, rwy'n bwriadu cyhoeddi adroddiad cryno yn dwyn y teitl Cynllunio ac Adrodd ar Waith Gwella Lleol. Bydd yr adroddiad hwnnw'n nodi bod Adran 9 o'r Mesur yn rhoi'r pŵer i awdurdodau gydweithio, a bod adran 12 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau ystyried a fyddai cydweithio o'r fath yn eu cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau gwella. Os felly, rhaid iddynt arfer y pŵer hwnnw. Noda'r canllawiau ategol na fydd awdurdod nad yw'n gwneud defnydd llawn a phriodol o gydweithio fwy na thebyg wedi cyflawni ei ddyletswydd gyffredinol yn ddigonol, hyd yn oed os bydd yn cyflawni'r rhan fwyaf o'i amcanion gwella a bod ei wasanaethau ei hun yn perfformio'n gymharol dda.

 

4.  Bydd fy adroddiad yn nodi bod y gofyniad hwn i 'geisio' cydweithio yn agored i gael ei ddehongli'n eang iawn yn ogystal â'r cyfeiriad at 'ddefnydd llawn a phriodol o gydweithio'. Rwy'n rhannu pryder rhai o'r awdurdodau ynghylch y posibilrwydd o ddryswch ac ansicrwydd mewn perthynas â'r geiriad hwn ac yn credu ei fod yn llesteirio fy ngallu innau i ddod i gasgliad effeithiol ynghylch a yw awdurdodau wedi cyflawni eu dyletswydd gyffredinol yn ddigonol. Yn wir, mae tensiwn cynhenid rhwng awdurdod yn mynd ar drywydd cydweithio ag eraill sydd â'r potensial i sicrhau manteision net i'r cyhoedd a'r awdurdod unigol hwnnw'n ymatal rhag gwneud gwelliannau a allai fod wedi eu gwneud drwy beidio â chydweithio neu gymryd risg ychwanegol. Er gwaethaf hyn, rydym wedi gweld tystiolaeth sylweddol o ymdrechion i gydweithio sy'n amrywio o ran ymrwymiad a llwyddiant.

 

5.  Fel y dywed ein hadroddiad Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2011, ac fel y pwysleisiais yn fy mhapur i'r Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus, er mwyn gwella ar y cyd y canlyniadau i ddinasyddion, mae dadl dros sicrhau bod gwahanol sectorau sy'n gwasanaethu'r un boblogaeth yn cydweithio. Yn ymarferol, gall nifer y cyrff wneud y broses o gydweithio'n gymhleth. I Fyrddau Iechyd, yn anochel mae datblygu perthynas strategol a gweithredol effeithiol gyda nifer o gynghorau yn eu hardal yn cymryd amser ac ymdrech. Un enghraifft dda yw Prosiect Eiddilwch Gwent, y cyfeiriwyd ato fel enghraifft o arfer da ers oddeutu 2007. Dengys ein hadroddiadau Asesiad Gwella lleol i gynghorau yn yr ardal fod y prosiect wedi cymryd yr amser angenrheidiol i roi trefniadau rheoli da ar waith. Bellach mae'r prosiect yn dangos y newidiadau angenrheidiol mewn ymddygiad a diwylliant i sicrhau gwell perfformiad mewn rhai meysydd.  Yn ogystal ceir heriau i sicrhau nad yw cyfyngiadau ariannol mewn asiantaethau unigol yn cyfaddawdu amcanion ehangach y prosiect.

 

6.  Fodd bynnag, mae'r achos dros gydweithio o fewn sectorau - rhwng cyrff sy'n darparu'r un gwasanaethau i boblogaethau gwahanol - yn wahanol ac yn dibynnu ar gydbwyso manteision yn erbyn costau a risgiau. Er bod cydweithio o'r fath yn gynhenid anodd oherwydd y gwahanol atebolrwydd, dengys enghreifftiau presennol ym maes rheoli gwastraff a thrafnidiaeth er enghraifft, nad yw'r heriau hyn yn anorchfygol. Serch hynny, mae angen amser ac ymdrech er mwyn i gydweithio ddwyn ffrwyth. Nodaf y swm sylweddol o amser y mae wedi'i gymryd i gyrraedd y cam o lunio achosion busnes o blaid cydweithio o dan adolygiad Simpson.

 

7.  O ran agenda Simpson, efallai yr hoffai'r Pwyllgor gyfeirio at rannau o'r adroddiad a gyhoeddais ym mis Rhagfyr 2012 ar Argyfyngau Sifil yng Nghymru ac at y dystiolaeth a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fel rhan o'i ymchwiliad i'r un pwnc, y cyhoeddwyd y canfyddiadau mewn adroddiad ym mis Mehefin 2013.

Argyfyngau Sifil yng Nghymru

 

http://www.senedd.cynulliadcymru.org/documents/s18859/Argyfyngau%20Sifil%20yng%20Nghymru%20-%20Gorffennaf%202013.pdf